Hanes ac Adnabod
Mae
Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig yn brosiect datblygu
cymunedol a leolir yng Ngogledd Orllewin Cymru ac mae ei
brif swyddfa yng Nghaernarfon. Gwynedd. Fe’i coferstrwyd fel
cwmni cyfyngedig (Rhif Cofrestru’rCwmni 4186327) trwy warant
yn Nhy’r Cwmniau, Caerdydd, Cymru. Rhif Elusen y Cwmni yw:
1114249.
Ar
hyn o bryd, mae’r cwmni’n ymgymryd â gwaith ym
mhob rhan o Gymru, ond gall gynnig ei wasanaeth ymhellach na hynny.
Nod
y prosiect yw cefnogi datblygiad gallu cymunedau, gweithwyr ac asiantaethau
trwy ddefnyddio hyfforddiant a chefnogaeth sy’n gweithio tuag
at liniaru thlodi a hyrwyddo cyfle cyfartal trwy weithgarwch amgylcheddol,
econamaidd a chymdeithasol.
Ers
pum mlynedd, bu Sylfaen Cymunedol Cyf. yn gweithio’n ymarferol
mewn sawl cymunedol led-led Gogledd Cymru. Datblygwyd y gwaith hwn
drwy hyfforddiant, anffurfiol a ffurfiol, a chefnogaeth
a llwyddodd i gael unigolion i gael archrediad Rhwydwaith Coleg
Agored a ddatblygu prosiectau.
Erbyn
hyn mae Sylfaen yn cynnig hyfforddiant i asiantaethau
cenedlaethol a rhanbarthol led-led Gymru. Mae Sylfaen
wedi gweithio i nifer o asiantaethau gan gynnwys: Cyngor Gweithredu’n
Gwirfoddol Cymru (WCVA), YMCA, Awrdurdod Datblygu Cymru (WDA), Rhwydwaith
Cefnogi Cymunedau Gyntaf (CFSN) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r
hyfforddiant yma wedi ei selio ar brofiad o ymgymryd â gwaith
‘wyneb yn wyneb’ yn y gymuned sydd
wrth gwrs yn sicrhau bod y gwaith o hyfforddi ar lefel cenedlaethol
a phwyslais o edrych ar ddamcamiaeth datblygu cymunedol wedi ei
selio ar ymarfer cyfredol.
Yn
lleol mae Sylfaen wedi datblygu cynllun ‘Dringo’r Waliau
(‘Climbing the Walls’). Mae’r cynllun hwn yn deillio
o gwrs ‘Datblygu Hyder’ yng Nyffryn
Nantlle ac mae wedi arwain at gynllun a fydd dros pum mlynedd yn
cymhwyso grwp o ferchaid mewn gweithgareddau awyr
agored. Mae’r cynyllun yn cael ei reoli gan cyd-lynnydd llawn
amser ac yn rhoi cyfle i 5 merch weithio’n wirfoddol yn rhan
amser.
Rheolir
Sylfaen Cymunedol Cyf. gan fwrdd o gyfarwyddwyr, ac mae ganddo ddau
weithiwr datblygu cymunedol llawn amser, gweinyddwr rhan-amser a
nifer o weithwyr sessiynol.
Cyfarwyddwyr
Sylfaen Cymunedol Cyf:
Mae Cymdeithas Tai Eryri yn cael ei gynrychioli gan Ms Carina Roberts,
Cymdeithas Tai Clwyd gan Mr. Alwyn Llwyd – Prif Weithredwr,
Mr John-Glyn Jones – cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd
- Eurig Wyn – cyn Aelod Senedol Ewroperaidd, Val Owen –
Cyfarwyddwraig Cartref Bontnewydd, Sel Williams – Prifysgol
Cymru, Bangor.