image

Hanes

Dechreuodd Sylfaen Cymunedol yn 2001 pan dynnodd Cymdeithas y Plant yn ei hôl oddiwrth ei phrosiect datblygu cymuned yng Nghymru.

Roedd y tri aelod o staff, Brian Thirsk, Siân Thomas a Val Williams, eisiau dal ati gyda’r gwaith efo plant, pobl ifainc, a theuluoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd, mi wnaethon nhw sefydlu Sylfaen fel menter gymdeithasol ac elusen er mwyn sicrhau bod y gwaith datblygu cymuned yn parhau.

Gyda dyfodiad Rhaglen Gwrth-Dlodi Llywodraeth Cymru, canolbwyntiodd Sylfaen ar gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i denantiaid, preswylwyr a phobl ifainc, ac hwyluso sefydlu Partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf.

Yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy cefnogodd Sylfaen grwpiau i ddeall datblygu cymuned trwy ganolbwyntio ar ymchwil, ymgynghori, a gweithredu. Gwnaeth pob prosiect wahaniaeth i’w gymuned.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • meithrinfa newydd sbon ym Morawelon, Caergybi;
  • trawsnewid capel i ganolfan gymunedol yn London Road, Caergybi;
  • trawsnewid neuadd eglwys i ganolfan gymunedol yn Niwbwrch, Ynys Môn;
  • estyn Undeb Credyd i Ynys Môn;
  • prosiect prentisiaethau adeiladu ar gyfer pobl ifainc yng Nghaergybi;
  • prentisiaethau mewn gweithgareddau awyr agored i ferched yn Nyffryn Nantlle;
  • trawsnewid maes parcio i gae chwarae tu allan i Ganolfan Gymunedol Gwelfor, Caergybi.

Gweithiodd Sylfaen gyda Chyngor Conwy, Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau’n Gyntaf a thenantiaid a phreswylwyr wardiau Tudno/Mostyn a Bae Cinmel, i ddatblygu rhaglen dysgu er mwyn uchafu effeithiau positif ar gynhwysiad cymdeithasol.

Ennillodd Rhaglen Dysgu Cynhwysiad Cymdeithasol wobr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Byddai Sylfaen bob tro yn annog grwpiau ym mhrofiad arfer - gweithredu, adlewyrchu, dysgu, a gweithredu eto.

Ar ôl diwedd Cymunedau’n Gyntaf, a chyda newidiadau mewn dulliau ariannu, bu rhaid i Sylfaen esblygu a chwilio am ffyrdd newydd o fynegi ei gwerthoedd.

Gadawodd Siân i weithio fel cymorthydd dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Ynys Môn. Arhosodd Brian gyda Sylfaen tan ei salwch byr a’i farwolaeth ym mis Chwefror 2017. Roedd o eisiau i Sylfaen barhau fel rhan o’i gymynrodd.

Morawelon, Caergybi

London Road, Caergybi

Niwbwrch, Ynys Môn

Ganolfan Gymunedol Gwelfor, Caergybi

Cysylltwch â ni

Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig, 14 Stryd y Porth Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AG

Ffôn: 01286 677117 | Ebost: info@sylfaencymunedol.org

English