Mae gan Sylfaen dri aelod o staff:
Mae Val efo Sylfaen ers y chychwyn. Mae hi’n cydlynu gwaith y cwmni ac yn gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso, yn ogystal ag hyfforddiant datblygu cymuned a datblygu prosiectau newydd. Cafodd Val ei magu yn Amlwch, a mynychodd Ysgol Syr Thomas Jones cyn astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd, aeth at y Sector Gwirfoddol, yn gyntaf gyda Chymorth i Ferched yn Rhyl, yna gyda Chymdeithas y Plant, ac, am y 17 o flynyddoedd diweddaraf, gyda Sylfaen Cymunedol. Mae gan Val Ddiploma ôl-radd mewn Datblygu Cymuned. |
Mae Nia yn gweithio gyda Sylfaen ers Ionawr 2013, ac yn arbenigo yn null bywoliaethau cynaliadwy, gan ddefnyddio’r methodoleg gydag amrywiaeth o grwpiau. Mae hi hefyd yn cynnig hyfforddiant a mentora. Mynychodd Nia Ysgol Bodedern yn Sir Fôn. Mae ganddi brofiad 17 o flynyddoedd fel Gweithiwr Ieuenctid cymwysedig a 12 o flynyddoedd mewn Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd. Mae hi efo Sylfaen ers 2013. Mae gan Nia Ddiploma mewn Astudiaethau Lles. |
|
Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig, 14 Stryd y Porth Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AG
Ffôn: 01286 677117 | Ebost: info@sylfaencymunedol.org