Fel elusen a chwmni cyfyngedig trwy warant, rydyn ni’n cydymffurfio â rheolau Comisiwn yr Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau. Dyma cyfrifon diweddar Sylfaen Cymunedol Cyf.
Mae Haydn Hughes wedi bod yn ymwneud â threfnu darpariaeth Cymraeg i Oedolion a Chymraeg i Ddysgwyr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Cyn-Gynghorydd Sir Gwynedd ydy o.
Mae Alwyn Llwyd wedi bod yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd. Cyfrifydd cymwysedig, mae o wedi gweithio fel cyfarwyddwr cyllid i gwmnïau ym Mrwsel a Luxembourg. Bellach, mae o’n defnyddio ei sgiliau er mwyn cefnogi nifer o elusennau.
Mae Val Owen yn Brif Weithredwr Y Bont, elusen gwasanaethau cefnogi teuluoedd. Mae’r elusen yn arbenigo mewn cynadledda grŵp teuluol, cymodi teuluol, eiriolaeth a chefnogaeth. Gweithiwr cymdeithasol cymwysedig ydy hi.
Bu Cemlyn Rees Williams yn Bennaeth Gwasanaeth Cyngor i Bawb yng Ngwynedd, ar ôl gyrfa lwyddiannus gydag Adran Gwaith a Phensiynau. Mae o wedi bod yn Gynghorydd Tref Caernarfon a Chynghorydd Sir Gwynedd.
Mae Sel Williams wedi ymddeol fel darlithydd mewn Datblygu Cymuned ym Mhrifysgol Bangor. Mae o’n gweithio gyda Chwmni Bro Ffestiniog, grŵp ambarél ym Mlaenau Ffestiniog sy’n datblygu cynllun adfywiad i’r ardal.
Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig, 14 Stryd y Porth Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AG
Ffôn: 01286 677117 | Ebost: info@sylfaencymunedol.org