Ymchwil Mae Sylfaen yn cynnig gweithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol er mwyn ymchwilio materion o bwys iddyn nhw. Un engraifft ydy’r gwaith gyda Dyffryn Nantlle 20:20 ynglŷn â’r ymgynghoriad am ddatblygu Siop Griffiths, ac yr astudiaeth berthnasol am sut gall yr iaith Gymraeg gefnogi datblygu economaidd yn y dyffryn. |
Gwerthuso Mae Sylfaen yn gallu cynnig gwerthuso ansoddol trwy chwilio am farnau cyfranogwyr, eu teuluoedd, a’r asiantaethau a/neu bartneriaid mewn prosiect, fel ar gyfer gwerthusiad Mentro ‘Mlaen GISDA yn ystod Haf 2017. Yn fewnol, mae Sylfaen yn defnyddio dull gwerthuso Gwerth Cymdeithasol. Yn ogystal â chwilio am farn y rhai sy’n ymwneud â phrosiect, rydyn ni’n ymgeisio amcangyfrif gwerth ariannol, economaidd a chymdeithasol. Byddwn ni’n cynnig y methodoleg yn allanol yn y dyfodol agos. |
Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig, 14 Stryd y Porth Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AG
Ffôn: 01286 677117 | Ebost: info@sylfaencymunedol.org